Banner Default Image

Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni

Go back
  • Location:

    Wales

  • Sector:

    Public Sector & Not-for-Profit

  • Job type:

    Permanent

  • Salary:

    £71500.00 - £75283 per annum + Remote working

  • Contact:

    Hannah Welfoot

  • Email:

    hannah.welfoot@yolkrecruitment.com

  • Job ref:

    BBBH35911

  • Published:

    16 days ago

  • Expiry date:

    02 June 2024

Cwmni newydd yw Adnodd sydd wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod dysgwyr ac athrawon yn gallu cael mynediad at adnoddau arloesol a dwyieithog o'r safon uchaf fydd yn cyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.

Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni, rôl sy'n ganolog i'r gwaith o ddatblygu dylanwad Adnodd ar addysg yng Nghymru. Fel arweinydd strategol, byddwch yn cydweithio ag ymarferwyr, cyfranwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod adnoddau addysgol yn cael eu comisiynu, eu datblygu, eu cyflenwi a'u cysoni yn effeithiol.

Yn Adnodd, byddwch ar flaen y gad o ran trawsnewid argaeledd adnoddau addysgol dwyieithog yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i ddylanwadu'n sylweddol ar sut mae cynnwys addysgol yn cael ei gomisiynu, ei saernïo a'i gyflwyno, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr ar draws y system. Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cyfoethog a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

Bydd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni yn allweddol i'r gwaith o lunio a gwireddu cenhadaeth Adnodd a sicrhau bod gan ddysgwyr ac ymarferwyr fynediad at adnoddau addysgol rhagorol.

Fel cwmni newydd sbon, mae Adnodd wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Felly, waeth beth fo'ch rhywedd, oedran, statws anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu ethnigrwydd, mae Adnodd eisiau clywed gennych chi.

Y Rôl

Fel aelod allweddol o'r tîm arweinyddiaeth, bydd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni yn meithrin diwylliant sefydliadol grymusol, addysgol a deinamig. Bydd eich mewnwelediad a'ch arweinyddiaeth strategol nid yn unig yn llywio cyfeiriad y sefydliad ond hefyd yn sicrhau bod gan bob dysgwr ac ymarferydd fynediad at offer addysgol effeithiol trwy:

  • Arweinyddiaeth strategol
  • Comisiynu a chyflawni adnoddau
  • Sicrhau ansawdd ac arloesedd
  • Meithrin cydweithrediad a galluedd
  • Cynllunio hirdymor a buddsoddi

Gofynion

Bydd gan y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:

  • Hyfedredd yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Arweinyddiaeth strategol o fewn addysg/datblygu adnoddau neu sector perthnasol
  • Datblygu ac arwain timau sy'n cyflawni ar lefel uchel
  • Meddwl yn strategol, pennu gweledigaeth a chynllunio
  • Rheoli prosiectau/rhaglenni
  • Gradd berthnasol neu gyfwerth

Cyflog

  • Cyflog cychwynnol o £71,500
  • Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Amrywiaeth o fuddion ychwanegol

Yolk Recruitment yw partner recriwtio unigryw Adnodd. Bydd pob cais felly yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk, gan ddilyn proses deg a thryloyw Adnodd o recriwtio.

x Yolk Recruitment | UK Recruitment | Hiring Manager | Business Owner
x


Looking for top-notch talent?

If you're a business owner or hiring manager, Yolk can help you find your next superstar.

Submit your vacancy below.