Banner Default Image

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol

Go back
  • Location:

    Wales

  • Sector:

    Public Sector & Not-for-Profit

  • Job type:

    Permanent

  • Salary:

    £63725 - £67094.00 per annum + Civil Service Pension Scheme

  • Contact:

    Hannah Welfoot

  • Email:

    hannah.welfoot@yolkrecruitment.com

  • Job ref:

    BBBH38848

  • Published:

    hace alrededor de 14 horas

  • Expiry date:

    29 May 2025

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol

Mae Adnodd yn un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru. Mae'n gyfrifol am arwain a chydlynu'r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i ysbrydoli dysgu ac addysgu'r Cwricwlwm i Gymru.

Gweledigaeth Adnodd yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fo'u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da a fydd yn tanio'u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu.

Y cyfle

Fel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, byddwch chi'n arwain y gwaith o ddylunio a rhoi ar waith strategaeth y sefydliad ar gyfer cyfathrebu, marchnata ac ymwneud â rhanddeiliaid.

Byddwch chi'n gwneud cyfraniad o bwys at ddatblygu a gwella enw da brand Adnodd drwy fod yn rhagweithiol ym myd cysylltiadau cyhoeddus a'r wasg, a thrwy gydweithio'n effeithiol â phartneriaid strategol.

Byddwch chi'n defnyddio dadansoddeg, gwybodaeth a data i fireinio a gwella'n barhaus ein strategaethau ymgysylltu, a'r rheini'n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Adnodd a'r Cwricwlwm i Gymru.

Y cyfrifoldebau

  • Arwain a rhoi ar waith Strategaeth Gyfathrebu Adnodd, gan sicrhau bod ein negeseuon yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn effeithiol, a'u bod yn cryfhau ein brand ac yn adlewyrchu'i werthoedd.
  • Rheoli'r holl waith cyfathrebu allanol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron, cynnwys ar y we, a chysylltiadau â'r wasg, er mwyn hyrwyddo ac amlygu'r gwaith y mae Adnodd yn ei wneud.
  • Meithrin cyfathrebu mewnol effeithiol, drwy helpu i sicrhau bod y staff yn cefnogi amcanion y sefydliad a thrwy hyrwyddo diwylliant agored a chynhwysol.
  • Arwain y broses o ymwneud â rhanddeiliaid, gan feithrin partneriaethau cryf gyda'r sector addysg, Llywodraeth Cymru, y cyfryngau a chymunedau sy'n cael eu tangynrychioli er mwyn rhoi sail i waith a dylanwadu ar waith yn y meysydd hyn.
  • Monitro a gwerthuso gwaith cyfathrebu, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i wella'i gyrhaeddiad a'i effeithiolrwydd a gwerth am arian.

Am beth rydyn ni'n chwilio

  • Profiad amlwg o arwain strategaethau cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus neu ymgysylltu-yn ddelfrydol yn y byd addysg, yn y sector cyhoeddus, neu yn y sector nid-er-elw.
  • Y gallu i droi syniadau cymhleth yn gynnwys dwyieithog clir sy'n argyhoeddi.
  • Profiad o ddefnyddio adnoddau digidol, o reoli cysylltiadau â'r cyfryngau, ac o ymwneud â chynulleidfaoedd ar blatfformau niferus.
  • Sgiliau rheoli prosiectau a rheoli cyllidebau rhagorol, gyda phwyslais ar gyflawni ac ar gael effaith.
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i feithrin ymddiriedaeth â rhanddeiliaid ar bob lefel.
  • Rhywun sy'n angerddol dros addysg ac wedi ymrwymo i ddwyieithrwydd.
  • Gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol (dyma fydd yn cael ei ffafrio).

Hyfedredd ieithyddol

  • Mae'n hanfodol eich bod yn hyfedr yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Y buddion

  • 5 awr yr wythnos - amgylchedd gweithio hyblyg
  • 30 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau Cyhoeddus
  • Gwyliau ychwanegol - Dydd Gŵyl Dewi
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Amrywiaeth o fanteision eraill

I wneud cais

Yolk Recruitment yw partner recriwtio arbennig Adnodd ac felly bydd yr holl geisiadau'n cael eu rheoli gan dîm Yolk, gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr i gyd-fynd (dim mwy na 500 o eiriau) at Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment.

Dyddiad cau: Mercher, 14 Mai

Dyddiad y cyfweliad a'r asesiad: Dydd Iau, 22 Mai

Lleoliad y cyfweliad a'r asesiad: Caerdydd

Ymunwch â ni ar ein taith i greu profiadau dysgu cyfoethog, cynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol, lle bydd pawb yn perthyn. Rydyn ni'n frwd yn ein hawydd i groesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rheini o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl anabl. Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r safbwyntiau a'r profiadau unigryw y bydd gan bob unigolyn i'w cynnig, ac rydyn ni wedi ymroi i sicrhau tegwch yn ein prosesau recriwtio a thrwy ein holl sefydliad.

x ‎‎
x