Banner Default Image

Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd

Go back
  • Location:

    Wales

  • Sector:

    Public Sector & Not-for-Profit

  • Job type:

    Permanent

  • Salary:

    Up to £57513.00 per annum + O bell

  • Contact:

    Hannah Welfoot

  • Email:

    hannah.welfoot@yolkrecruitment.com

  • Job ref:

    BBBH38963

  • Published:

    hace alrededor de 8 horas

  • Expiry date:

    14 July 2025

Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd

Mae Adnodd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio ac yn cydlynu'r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i gefnogi ac ysbrydoli wrth ddysgu ac addysgu'r Cwricwlwm i Gymru.

Gweledigaeth Adnodd yw bod gan bob dysgwr ac ymarferwr, beth bynnag fo'u cefndir, hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd uchel a fydd yn tanio eu dychymyg, yn cefnogi eu llesiant, ac yn annog cariad gydol oes at ddysgu.

Y Cyfle

Fel y Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio'r dirwedd adnoddau addysgol yng Nghymru. Byddwch yn arwain ymdrechion i fapio'r ddarpariaeth a'r galw presennol, ac ar ddarparu rhaglen gomisiynu a sicrhau ansawdd effeithiol i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a'r cyfleoedd y cytunwyd arnynt. Byddwch yn sicrhau bod adnoddau'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn adlewyrchu cymunedau a dysgwyr amrywiol Cymru.

Fel rhan o dîm deinamig, traws-swyddogaethol, byddwch yn helpu i ddatblygu casgliad cenedlaethol arloesol sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru ac yn diwallu anghenion ymarferwyr a dysgwyr.

Cyfrifoldebau

  • Arwain y gwaith cynllunio strategol, comisiynu a sicrhau ansawdd ar adnoddau addysgol dwyieithog.
  • Rheoli cyllidebau a staff, gan fanteisio i'r eithaf ar ddefnyddioldeb ac effaith adnoddau'r sefydliad.
  • Goruchwylio'r gwaith o fapio'r ddarpariaeth bresennol, nodi anghenion y dyfodol, a rheoli'r gwaith o ddatblygu adnoddau o'r cam cysyniad i'r cam cyflawni.
  • Gweithio'n agos ag ymarferwyr, cyflenwyr, crewyr cynnwys a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod adnoddau'n diwallu anghenion yr ystafell ddosbarth a blaenoriaethau cenedlaethol.
  • Monitro ac adrodd ar weithgareddau comisiynu a sicrhau ansawdd yn erbyn amcanion strategol, gan ddefnyddio data ac adborth defnyddwyr i fesur effaith a gwella prosesau'n barhaus.
  • Hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd ym mhopeth y mae Adnodd yn ei gomisiynu.

Am Beth Ydyn ni'n Chwilio

  • Profiad amlwg o gomisiynu neu ddatblygu adnoddau addysgol neu debyg.
  • Sgiliau effeithiol o ran rheoli cyflenwyr a rhanddeiliaid.
  • Profiad o arwain prosiectau neu reoli timau (mae profiad o reoli llinell yn ddymunol).
  • Meddwl strategol, cynllunio prosiect a chynllunio gweithredol.
  • Dealltwriaeth o addysg ddwyieithog a datblygu adnoddau, gan gynnwys hygyrchedd.
  • Yn frwd dros degwch mewn addysg a'r iaith Gymraeg.
  • Yn rhagweithiol mewn tîm ac yn rhoi sylw i'r manylion, gydag ymrwymiad i arloesi ac ansawdd.
  • Mae sgiliau Cymraeg ar lefel ganolradd yn hanfodol. Bydd Adnodd yn helpu i ddatblygu rhagor o sgiliau Cymraeg.
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol.

Tâl

  • 37.5 awr yr wythnos - amgylchedd gweithio hyblyg
  • Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus
  • Gwyliau ychwanegol - Dydd Gŵyl Dewi
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Amrywiaeth o fuddion ychwanegol

I Wneud Cais

Yolk Recruitment yw partner recriwtio penodol Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk drwy ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd ei hun.

I wneud cais, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol (hyd at 500 gair) i Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Mehefin

Dyddiad y Cyfweliad a'r Asesiad: Dydd Gwener 13 Mehefin

Lleoliad y Cyfweliad a'r Asesiad: Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd

Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol lle mae pawb yn perthyn. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig rhai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl anabl. Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau a phrofiadau unigryw pob person, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau tegwch yn ein proses recriwtio ac ar draws ein sefydliad

x ‎‎
x