-
Location:
Wales
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
£32656 - £34740.00 per annum + Civil Service Pension Scheme
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH38846
-
Published:
hace alrededor de 15 horas
-
Expiry date:
29 May 2025
Swyddog Corfforaethol
Mae Adnodd yn un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru. Mae'n gyfrifol am arwain a chydlynu'r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i ysbrydoli dysgu ac addysgu'r Cwricwlwm i Gymru.
Gweledigaeth Adnodd yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fo'u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da a fydd yn tanio'u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu.
Y cyfle
Mae Adnodd yn chwilio am Swyddog Corfforaethol i roi cymorth effeithiol ym meysydd cyllid, caffael ac adnoddau dynol. Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r uwch dîm arwain i helpu i sicrhau bod prosesau corfforaethol yn cael eu cyflawni'n ddirwystr o ddydd i ddydd, a hynny mewn sefydliad dynamig sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ei ddiben.
Y cyfrifoldebau
Cymorth ym maes cyllid a chaffael
- Prosesu archebion prynu, anfonebau cyflenwyr a thaliadau drwy Xero a bancio ar-lein
- Cysoni cyfrifon banc a chreu adroddiadau i'r tîm gweithredol
- Rheoli hawliadau treuliau'r staff
- Ymwneud ag archwilwyr mewnol ac allanol
- Gofyn am ddyfynbrisiau a manylebau gan gyflenwyr
Cymorth corfforaethol cyffredinol
- Cadw cofnodion absenoldeb a salwch y staff a pharatoi adroddiadau rheolaidd
- Prawfddarllen dogfennau ac adroddiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer digwyddiadau a rheoli dyddiaduron, a phrosesu papurau'r bwrdd
- Helpu cydweithwyr gyda'r prosesau comisiynu
Am beth rydyn ni'n chwilio
- Cefndir cryf mewn gweinyddu ariannol neu weinyddu busnes, yn ddelfrydol yn y byd addysg neu'r sector cyhoeddus
- Gallu amlwg i helpu i gyflawni cynlluniau busnes mewn cyd-destunau sy'n esblygu
- Profiad o feithrin a rheoli perthnasau â rhanddeiliaid
- Dealltwriaeth gadarn o brosesau corfforaethol ac ariannol
- Gallu rhagorol i roi sylw i fanylion a sicrhau cywirdeb
- Agwedd ragweithiol ac ymarferol, ac ymrwymiad i wella o hyd
- Y gallu i weithio'n annibynnol a chrebwyll cadarn
- Brwdfrydedd dros addysg a dwyieithrwydd
Hyfedredd ieithyddol
Ar gyfer y swydd hon, mae'n hanfodol eich bod â sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Y buddion
- 5 awr yr wythnos - amgylchedd gweithio hyblyg (0.6 cyfwerth ag amser llawn)
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau Cyhoeddus
- Gwyliau ychwanegol - Dydd Gŵyl Dewi
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fanteision eraill
I wneud cais
Yolk Recruitment yw partner recriwtio arbennig Adnodd ac felly bydd yr holl geisiadau'n cael eu rheoli gan dîm Yolk, gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr i gyd-fynd (dim mwy na 500 o eiriau) at Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment.
Dyddiad cau: Mercher, 14 Mai
Dyddiad y cyfweliad a'r asesiad: Mercher, 21 Mai
Lleoliad y cyfweliad a'r asesiad: Caerdydd
Ymunwch â ni ar ein taith i greu profiadau dysgu cyfoethog, cynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.
Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol, lle bydd pawb yn perthyn. Rydyn ni'n frwd yn ein hawydd i groesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rheini o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl anabl. Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r safbwyntiau a'r profiadau unigryw y bydd gan bob unigolyn i'w cynnig, ac rydyn ni wedi ymroi i sicrhau tegwch yn ein prosesau recriwtio a thrwy ein holl sefydliad.
