Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni
-
Location
Wales
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
£71500.00 - £75283 per annum + Remote working
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH35911
-
Published:
10 months ago
-
Expiry date:
2024-05-21
-
Consultant:
ConsultantDrop
Cwmni newydd yw Adnodd sydd wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod dysgwyr ac athrawon yn gallu cael mynediad at adnoddau arloesol a dwyieithog o'r safon uchaf fydd yn cyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.
Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni, rôl sy'n ganolog i'r gwaith o ddatblygu dylanwad Adnodd ar addysg yng Nghymru. Fel arweinydd strategol, byddwch yn cydweithio ag ymarferwyr, cyfranwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod adnoddau addysgol yn cael eu comisiynu, eu datblygu, eu cyflenwi a'u cysoni yn effeithiol.
Yn Adnodd, byddwch ar flaen y gad o ran trawsnewid argaeledd adnoddau addysgol dwyieithog yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i ddylanwadu'n sylweddol ar sut mae cynnwys addysgol yn cael ei gomisiynu, ei saernïo a'i gyflwyno, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr ar draws y system. Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cyfoethog a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.
Bydd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni yn allweddol i'r gwaith o lunio a gwireddu cenhadaeth Adnodd a sicrhau bod gan ddysgwyr ac ymarferwyr fynediad at adnoddau addysgol rhagorol.
Fel cwmni newydd sbon, mae Adnodd wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Felly, waeth beth fo'ch rhywedd, oedran, statws anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu ethnigrwydd, mae Adnodd eisiau clywed gennych chi.
Y Rôl
Fel aelod allweddol o'r tîm arweinyddiaeth, bydd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni yn meithrin diwylliant sefydliadol grymusol, addysgol a deinamig. Bydd eich mewnwelediad a'ch arweinyddiaeth strategol nid yn unig yn llywio cyfeiriad y sefydliad ond hefyd yn sicrhau bod gan bob dysgwr ac ymarferydd fynediad at offer addysgol effeithiol trwy:
- Arweinyddiaeth strategol
- Comisiynu a chyflawni adnoddau
- Sicrhau ansawdd ac arloesedd
- Meithrin cydweithrediad a galluedd
- Cynllunio hirdymor a buddsoddi
Gofynion
Bydd gan y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:
- Hyfedredd yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Arweinyddiaeth strategol o fewn addysg/datblygu adnoddau neu sector perthnasol
- Datblygu ac arwain timau sy'n cyflawni ar lefel uchel
- Meddwl yn strategol, pennu gweledigaeth a chynllunio
- Rheoli prosiectau/rhaglenni
- Gradd berthnasol neu gyfwerth
Cyflog
- Cyflog cychwynnol o £71,500
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
Yolk Recruitment yw partner recriwtio unigryw Adnodd. Bydd pob cais felly yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk, gan ddilyn proses deg a thryloyw Adnodd o recriwtio.
