Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd
-
Location
Wales
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
£55460.00 - £59000 per annum + Remote working
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH35910
-
Published:
10 months ago
-
Expiry date:
2024-05-21
-
Consultant:
ConsultantDrop
Cwmni newydd yw Adnodd sydd wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod dysgwyr ac athrawon yn gallu cael mynediad at adnoddau arloesol a dwyieithog o'r safon uchaf fydd yn cyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.
Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd i fapio'r ddarpariaeth a'r galw presennol, ac i arwain ar ddarparu rhaglen gomisiynu a sicrhau ansawdd effeithiol i fynd i'r afael â blaenoriaethau a chyfleoedd a gytunwyd.
Yn Adnodd, byddwch ar flaen y gad o ran trawsnewid argaeledd adnoddau addysgol dwyieithog yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i ddylanwadu'n sylweddol ar sut mae cynnwys addysgol yn cael ei saernïo a'i gyflwyno, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr ar draws y system. Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cyfoethog a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.
Bydd y Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd yn allweddol i'r gwaith o wireddu gweledigaeth Adnodd a sicrhau bod dysgwyr ac ymarferwyr yn elwa ar adnoddau addysgol dwyieithog eithriadol.
Fel cwmni newydd sbon, mae Adnodd wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Felly, waeth beth fo'ch rhywedd, oedran, statws anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu ethnigrwydd, mae Adnodd eisiau clywed gennych chi.
Y Rôl
Trwy gydweithio'n effeithiol â phartneriaid strategol, cyhoeddwyr, datblygwyr, ymarferwyr ac arbenigwyr pwnc, byddwch yn comisiynu cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel sy'n gynhwysol, yn hygyrch, yn adlewyrchu safbwyntiau a phrofiadau amrywiol, ac yn sicrhau gwerth am arian trwy:
- Arweinyddiaeth strategol
- Mapio adnoddau ac asesu anghenion
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid a blaenoriaethu
- Amrywiaeth a chynhwysiant
- Cynllunio gweithrediadau a rheoli prosiectau
- Mesur cynnydd ac adrodd
Gofynion
Bydd gan y Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:
- Mae Cymraeg Canolradd yn hanfodol
- Comisiynu, datblygu neu sicrhau ansawdd adnoddau addysgol neu brofiad tebyg
- Rheoli aml-brosiectau yn effeithiol
- Rheoli contractau a chyflenwyr
- Y gallu i feddwl yn strategol a chynllunio'n weithredol
Cyflog
- Cyflog cychwynnol o £55,460
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
Yolk Recruitment yw partner recriwtio unigryw Adnodd. Bydd pob cais felly yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk, gan ddilyn proses deg a thryloyw Adnodd o recriwtio.
