Rheolwr Profiadau Digidol a Defnyddwyr
-
Location
Wales
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
Negotiable
-
Contact:
Luke Cox
-
Email:
luke.cox@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH35920
-
Published:
12 months ago
-
Expiry date:
2024-06-02
-
Consultant:
ConsultantDrop
Cwmni newydd yw Adnodd sydd wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod dysgwyr ac athrawon yn gallu cael mynediad at adnoddau arloesol a dwyieithog o'r safon uchaf fydd yn cyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.
Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Rheolwr Profiadau Digidol a Defnyddwyr i arwain y gwaith o ddatblygu a darparu strategaethau, cynlluniau a phartneriaethau i wella hygyrchedd ac effeithiolrwydd adnoddau addysgol digidol.
Yn Adnodd, byddwch ar flaen y gad o ran trawsnewid argaeledd adnoddau addysgol dwyieithog yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i ddylanwadu'n sylweddol ar sut mae cynnwys addysgol yn cael ei saernïo a'i gyflwyno, gan sicrhau ei fod yn gwneud y mwyaf o dechnoleg i ddiwallu anghenion amrywiol pob dysgwr ar draws y system. Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cyfoethog a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.
Bydd gan y Rheolwr Profiadau Digidol a Defnyddwyr ran hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod dysgwyr ac ymarferwyr yng Nghymru yn cael mynediad teg a hawdd at yr adnoddau digidol dwyieithog gorau posibl.
Fel cwmni newydd sbon, mae Adnodd wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Felly, waeth beth fo'ch rhywedd, oedran, statws anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu ethnigrwydd, mae Adnodd eisiau clywed gennych chi.
Y Rôl
Rôl eang yw hon sy'n Rheoli Profiadau Digidol a Defnyddwyr gan gynnwys:
- Strategaeth ddigidol ac arloesedd
- Dylunio sy'n rhoi'r Defnyddiwr yn y canol
- Mynediad teg a gwerth am arian
- Cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Mesur ac adrodd ar ganlyniadau a chynnydd
Gofynion
Bydd gan y Rheolwr Profiadau Digidol a Defnyddwyr llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:
- Hyfedredd yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Y gallu i greu ac optimeiddio llwybrau digidol.
- Y gallu i ddylunio profiad defnyddwyr mewn perthynas ag atebion neu blatfformau
- Y gallu i reoli rhanddeiliaid
- Y gallu i feddwl yn strategol a phennu gweledigaeth
Cyflog
Bydd y Rheolwr Profiadau Digidol a Defnyddwyr llwyddiannus yn derbyn y cyflog canlynol:
- Cyflog cychwynnol o £55,460
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
Yolk Recruitment yw partner recriwtio unigryw Adnodd. Bydd pob cais felly yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk, gan ddilyn proses deg a thryloyw Adnodd o recriwtio.
