Swyddog Comisiynu ac Ansawdd
-
Location
Cardiff
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
Up to £31490.00 per annum + Remote working
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH36359
-
Published:
8 months ago
-
Expiry date:
2024-07-21
-
Consultant:
ConsultantDrop
Swyddog Comisiynu ac Ansawdd
Cwmni newydd yw Adnodd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, dwyieithog ac o'r ansawdd uchaf i gyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Swyddog Comisiynu ac Ansawdd a fydd yn gwneud cyfraniad allweddol at genhadaeth Adnodd trwy sicrhau bod adnoddau addysgol yn cael eu comisiynu a'u caffael yn effeithiol a bod modd sicrhau eu hansawdd. Byddwch yn cyfrannu at gynllunio gweithredol ac yn sicrhau bod adnoddau amserol, dwyieithog ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu.
Y Rôl
Gan weithio'n ddeinamig mewn tîm traws-swyddogaethol, byddwch yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau a chynlluniau ar gyfer comisiynu, sicrhau ansawdd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a fydd yn sicrhau bod adnoddau dwyieithog, arloesol, hygyrch a chynhwysol o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n amserol i ddiwallu anghenion pob dysgwr 3 i 19 oed.
Byddwch yn cefnogi ac yn arwain ar y gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau a gweithgareddau comisiynu a sicrhau ansawdd, gan sicrhau cyfranogiad priodol ac effeithiol gan randdeiliaid. Byddwch yn defnyddio'ch menter i ganolbwyntio ar ganlyniadau, cefnogi gwelliant parhaus ac ysgogi rhagoriaeth trwy:
- Comisiynu Adnoddau a Sicrhau Ansawdd
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Rheoli Risg, Dadansoddi Data ac Adrodd
- Diwallu anghenion dysgwyr y presennol a'r dyfodol
Gofynion
Bydd gan y Swyddog Comisiynu ac Ansawdd llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:
- Mae angen o leiaf Cymraeg ar lefel ganolradd ar gyfer y rôl hon.
- Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol.
- Profiad o gomisiynu, caffael neu rolau cysylltiedig.
- Y gallu i hysbysu, dylanwadu a chydlynu partneriaid a rhanddeiliaid.
- Yn gyfarwydd â datblygu adnoddau addysgol a sicrhau ansawdd.
- Profiad o reoli prosiectau a phrosesau sicrhau ansawdd.
- Angerdd am addysg ac ymrwymiad i ddwyieithrwydd.
- Chwaraewr tîm da sy'n gallu gweld a gwneud yr hyn sydd ei angen i gyflawni canlyniadau cyffredinol cadarnhaol.
Buddion
Bydd y Swyddog Comisiynu ac Ansawdd llwyddiannus yn derbyn:
- Cyflog cychwynnol o £31,490
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
Dyddiad Cau: 10yb Llun 8ed Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyfweliad ac Asesu: Iau 18ed Gorffennaf 2024
Lleoliad Cyfweliad ac Asesu: Yolk Recruitment, The Shell, Anchor Court, Keen Road, Caerdydd, CF24 5JW
Yolk Recruitment yw partner recriwtio egsgliwsif Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.
