-
Location:
Wales
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
Up to £32656.00 per annum + O bell
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH38970
-
Published:
3 days ago
-
Expiry date:
14 July 2025
Swyddog Comisiynu ac Ansawdd
Mae Adnodd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio ac yn cydlynu'r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i gefnogi ac ysbrydoli wrth ddysgu ac addysgu'r Cwricwlwm i Gymru.
Gweledigaeth Adnodd yw bod gan bob dysgwr ac ymarferwr, beth bynnag fo'u cefndir, hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd uchel a fydd yn tanio eu dychymyg, yn cefnogi eu llesiant, ac yn annog cariad gydol oes at ddysgu.
Y Cyfle
Fel y Swyddog Comisiynu ac Ansawdd, byddwch yn arwain ac yn cefnogi'r gwaith comisiynu, caffael a sicrhau ansawdd ar adnoddau addysgol - o ganfod bylchau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i reoli prosiectau a gwerthuso canlyniadau. Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod pob adnodd y mae Adnodd yn ei ddatblygu yn cyd-fynd â'u meysydd ffocws strategol, sef llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a llesiant.
Byddwch yn gweithio'n agos â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwell casgliad cenedlaethol o adnoddau dwyieithog sy'n cyd-fynd ac yn cefnogi'r gwaith o ddysgu ac addysgu'r Cwricwlwm i Gymru.
Cyfrifoldebau
- Rheoli nifer o brosiectau comisiynu o'r cam cynllunio i'r cam cyflawni.
- Sicrhau bod adnoddau o ansawdd uchel, yn ddwyieithog ac yn hygyrch.
- Gweithio'n agos â chyflenwyr, ymarferwyr addysgol a phartneriaid yn Llywodraeth Cymru.
- Arwain materion sicrhau ansawdd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a rheoli risg.
- Dadansoddi data i lywio penderfyniadau a chefnogi gwelliant parhaus.
Am Beth Ydyn ni'n Chwilio
- Profiad amlwg o gomisiynu, caffael neu ddatblygu cynnwys addysgol.
- Sgiliau cadarn yn rhyngbersonol ac o ran rheoli rhanddeiliaid.
- Angerdd dros addysg gynhwysol a dwyieithrwydd.
- Mae sgiliau Cymraeg ar lefel ganolradd yn hanfodol. Bydd Adnodd yn helpu i ddatblygu rhagor o sgiliau Cymraeg.
- Agwedd ragweithiol, drefnus sy'n canolbwyntio ar y tîm.
Tâl
- 37.5 awr yr wythnos - amgylchedd gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus
- Gwyliau ychwanegol - Dydd Gŵyl Dewi
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
I Wneud Cais
Yolk Recruitment yw partner recriwtio penodol Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk drwy ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd ei hun.
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol (hyd at 500 gair) i Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Mehefin
Dyddiad y Cyfweliad a'r Asesiad: Dydd Mawrth 17 Mehefin
Lleoliad y Cyfweliad a'r Asesiad: Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd
Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cynhwysol sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.
Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol lle mae pawb yn perthyn. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig rhai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl anabl. Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau a phrofiadau unigryw pob person, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau tegwch yn ein proses recriwtio ac ar draws ein sefydliad
