Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu
-
Location
Cardiff
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
Up to £38985.00 per annum
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH36358
-
Published:
10 months ago
-
Expiry date:
2024-08-01
-
Consultant:
ConsultantDrop
Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu
Cwmni newydd yw Adnodd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, dwyieithog ac o'r ansawdd uchaf i gyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu a fydd yn gwneud cyfraniad hanfodol i helpu Bwrdd ac uwch dîm Adnodd i sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn esmwyth.
Y Rôl
Byddwch yn darparu cymorth gweithredol rhagweithiol i'r Prif Weithredwr a'r uwch dîm rheoli, yn cefnogi cyfathrebu effeithiol â rhanddeiliaid, yn darparu cefnogaeth weinyddol gynhwysfawr i'r Bwrdd, ac yn cefnogi Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol gyda threfniadau a phrosesau llywodraethu a gweithredol trwy ddarparu'r canlynol:
- Cymorth gweithredol a gohebiaeth ysgrifenedig
- Gweinyddiaeth y Bwrdd
- Llywodraethu a chyflawni corfforaethol
- Cyfathrebu
Gofynion
Bydd gan y Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Addysg i safon Lefel 4 e.e. ILM lefel 4; NVQ Lefel 4, Diploma BTech, HNC neu wybodaeth a enillwyd trwy brofiad amlwg mewn maes perthnasol.
- Profiad o fod yn gynorthwyydd gweithredol neu bersonol, neu mewn rôl cefnogi prosiect
- Profiad o reoli dyddiadur a threfnu teithio a llety.
- Profiad o drefnu a chefnogi cyfarfodydd ac o weithio'n llwyddiannus gydag uwch dimau rheoli ac arwain,
- Profiad o baratoi a phrawfddarllen dogfennau ffurfiol megis cofnodion, gohebiaeth, adroddiadau a chyflwyniadau
- Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser ardderchog.
- Y gallu i reoli nifer o flaenoriaethau a thasgau i gadw at derfynau amser.
- Y gallu i gynnal cyfrinachedd a gweithredu gyda disgresiwn a diplomyddiaeth.
- Hyfedredd wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office gan gynnwys Office 365
- Meddylfryd ymarferol a rhagweithiol gydag ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid a gwelliant parhaus.
Buddion
Bydd y Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu llwyddiannus yn derbyn:
- Cyflog cychwynnol o £38,985
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
Dyddiad Cau: 10yb Llun 8ed Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyfweliad ac Asesu: Mercher 17eg Gorffennaf 2024
Lleoliad Cyfweliad ac Asesu: Yolk Recruitment, The Shell Anchor Court, Keen Road, Caerdydd CF24 5JW
Yolk Recruitment yw partner recriwtio egsgliwsif Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.
